Palas Holyrood
palas brenhinol yng Nghaeredin / From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydlwyd Palas Holyrood, neu'n swyddogol Palas Tŷ Holyrood, fel mynachlog gan David I, brenin yr Alban yn 1128, ac mae wedi gwasanaethu fel prif gartref brenhnoedd a brenhinesau'r Alban ers yr 15g. Safai'r palas ar ben y Filltir Frenhinol yng Nghaeredin. Palas Holyrood yw cartref swyddogol Elizabeth II yn yr Alban; mae hi'n treulio amser yn y palas ar ddechrau'r haf.
Ffeithiau sydyn Math, Cysylltir gyda ...
Math | preswylfa swyddogol, palas, plasty gwledig |
---|---|
Cysylltir gyda | tirwedd cynlluniedig Palas Holyrood |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Holyrood |
Sir | Dinas Caeredin |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 55.9527°N 3.17229°W |
Cod post | EH8 8DX |
Perchnogaeth | Dafydd I |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A |
Manylion | |
Cau
Daw'r enw Holyrood o Seisnigeiddio'r gair Sgoteg Haly Ruid (Croes Sanctaidd).