Penarlâg
pentref yn Sir y Fflint / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Penarlâg (Saesneg: Hawarden). Saif yn nwyrain y sir, ar gyffordd yr A55 a'r A550 tua 6 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer dros y ffin. Mae Llyfrgell Deiniol Sant, a sefydlwyd gan William Ewart Gladstone yno. Bu'r Rhyddfrydwr enwog fyw yn y pentref am dros 60 mlynedd. Deiniol yw nawddsant y plwyf. Ceir maes awyr bychan ger y pentref.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Ewlo |
Cyfesurynnau | 53.182°N 3.02°W |
Cod SYG | W04000190 |
Cod OS | SJ315655 |
Cod post | CH5 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jack Sargeant (Llafur) |
AS/au | Mark Tami (Llafur) |
Cau
- Erthygl am y pentref yw hon. Am y cwmwd canoloesol gweler Penarlâg (cwmwd).