Pop Cymraeg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd cerddoriaeth bop Cymraeg yn gymharol hwyr yn datblygu. Roedd yna ddiwylliant pop yn y dinasoedd ond roedd yn araf yn cyrraedd yr ardaloedd gwledig Cymraeg. Ceir nifer o resymau am hyn: gan fod Cymru'n wlad fynyddig, roedd derbyniad radio yn wael yn y rhan fwyaf o'r wlad a doedd llawer o Gymry Cymraeg ddim yn clywed caneuon pop gwledydd eraill.
Roedd y Cymry Cymraeg yn dueddol i barhau i greu eu diwylliant, traddodiadol eu hunain drwy farddoni a chanu caneuon gwerin traddodiadol mewn nosweithiau llawen, cyngherddau neu eisteddfodau. Mewn rhai mannau gwledig yn y 1960au doedd dim trydan a doedd hi ddim yn bosibl chwarae gitâr trydan neu wrando ar gerddoriaeth gyfoes. Roedd yn rhaid, felly, ddefnyddio offerynnau acwstig.
Roedd dylanwad crefydd ac emynau yn dal i barhau hefyd. Cerddoriaeth ddawns oedd roc a rôl yn wreiddiol, felly doedd y geiriau ddim yn bwysig. Roedd ambell i gystadleuaeth pop mewn eisteddfodau ond anodd iawn oedd gosod drymiau ac offerynnau trydan ar lwyfan er mwyn canu un gân fach, yn enwedig pan oedd cystadleuwyr eraill yn disgwyl i ddefnyddio'r llwyfan. Roedd y beirniaid, a oedd yn arfer beirniadu cerddoriaeth glasurol, cerdd dant ac yn y blaen yn gwybod fawr ddim am ddulliau chwarae'r felan, sylfaen cerddoriaeth bop.