Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau yn darparu codau i ddosbarthu afiechydon, arwyddion, symptomau, darganfyddiadau abnormal, cwynion y claf, amgylchiadau cymdeithasol ac achos anafiadau neu afiechydon. Clustnodwyd categori unigryw i bob cyflwr gyda chôd (lluosog: codau) perthnasol sydd hyd at chwe llythyren. Gall y categoriau hyn gynnwys grwp o afiechydon tebyg.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | dosbarthiad meddygol, gwaith cyfeiriol |
---|---|
Math | system codio ddiagnostig |
Awdur | Sefydliad Iechyd y Byd |
Gwefan | http://www.who.int/classifications/icd/en/ |
Cau
Enw llawn y cyhoeddiad yw Dosbarthiad Rhyngwladol Ystadegau Afiechydon a Phroblemau Perthnasol (Sa: The International Statistical Classification of Diseases and Related Health Problems (sef ICD).
Mae'r Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau yn cael ei gyhoeddi gan Sefydliad Iechyd y Byd a chaiff ei ddefnyddio'n fyd-eang. Mae hyn yn sicrhau cydweithio a chysondeb llwyr.