Rhyfel Affganistan (2001–21)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhyfel rhyngwladol oedd Rhyfel Affganistan (2001–21) a sbardunwyd gan oresgyniad Affganistan gan luoedd Unol Daleithiau America yn Hydref 2001. Nod gychwynnol yr Unol Daleithiau oedd i ddymchwel llywodraeth y Taliban ac felly atal al-Qaeda, a gyhuddwyd o gynllunio a chyflawni ymosodiadau 11 Medi 2001, rhag lloches yn Affganistan. Wedi cwymp y Taliban yn Rhagfyr 2001, ffurfiwyd clymblaid y Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol (ISAF) dan arweiniad NATO, gydag awdurdod y Cenhedloedd Unedig, i gadw'r heddwch yn y wlad ac i gynorthwyo lluoedd diogelwch y llywodraeth newydd. Lansiwyd gwrthryfel gan y Taliban yn 2003 i frwydro yn erbyn y llywodraeth a lluoedd ISAF drwy ddulliau anghymesur. Gwaethygodd y trais ar draws y wlad, gan beri ISAF i droi at strategaeth gwrthchwyldroadol a chynyddu niferoedd y lluoedd tramor. Yn 2012, cychwynnwyd ar y broses o drosglwyddo dyletswyddau diogelwch i luoedd Affganaidd, a pharatoi i encilio lluoedd ISAF. Daeth ymgyrchoedd milwrol ISAF i ben yn Rhagfyr 2014, a lansiwyd ôl-ymgyrch gan NATO i hyfforddi a chynghori'r Affganiaid. Pum mlynedd yn ddiweddarach, bu grym y Taliban wedi adfer gymaint iddynt orfodi'r Unol Daleithiau i arwyddo cytundeb heddwch ac i encilio'u holl luoedd o'r wlad, a daeth ôl-ymgyrch NATO yn Affganistan i ben yn 2021. Lansiwyd ymgyrch ymosodol gan y Taliban i orchfygu'r holl wlad, a chipiwyd y brifddinas Kabul ganddynt yn Awst 2021.
Dechreuodd y rhyfel ym mis Hydref 2001 wrth i luoedd arfog yr Unol Daleithiau ymosod ar Affganistan fel ymateb i ymosodiadau terfysgol 11 Medi. Cafodd yr Unol Daleithiau gymorth milwrol gan luoedd Affgani Cynghrair y Gogledd a NATO, yn cynnwys milwyr y Deyrnas Unedig, Canada, Awstralia, Ffrainc, Seland Newydd, yr Eidal a'r Almaen. Y goresgyniad oedd dechrau'r hyn a elwir gan rai y "Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth".[1]
Ers i'r rhyfel ddechrau mae miloedd o sifiliaid wedi eu lladd, yn cynnwys dwsinau o ferched a phlant a laddwyd pan fomiodd awyrennau Americanaidd bentref yn ne-orllewin Affganistan ar ddechrau Mai 2009. Mae dros 298 o filwyr Prydeinig wedi colli eu bywydau a 1,836 o filwyr NATO wedi colli eu bywydau ers cychwyn y rhyfel (hyd at Mehefin 2010).[2]