Rhyfel yr ieithoedd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Am ddefnyddiau eraill, gweler Rhyfel yr ieithoedd (gwahaniaethu).
Anghydfod cyhoeddus a ddigwyddodd yn y wladychfa Iddewig ym Mhalesteina ym 1913 dros le'r Hebraeg fodern yn system addysg Iddewig y wladychfa oedd Rhyfel yr Ieithoedd (Hebraegː מלחמ השפות; Milhemet HaSafot). Ezra, cymdeithas gymorth Iddewon yr Almaen, oedd targed yr anghydfod hwn, nad oedd yn rhyfel mewn gwirionedd. Roedd yn anarferol o ran ei heffaith, ac mae rhai yn ei hystyried yn symbol o fuddugoliaeth i'r deffroad cenedlaethol Iddewig ac adfywiad yr iaith Hebraeg.
Ffeithiau sydyn Dyddiad ...
Y Technicwm (Technion) yn ei gartref cyntaf yng nghymdogaeth Hadar HaCarmel, 1913 (erbyn hyn yr adeilad yw cartref yr Amgueddfa Gwyddoniaeth, Technoleg a Gofod Genedlaethol) | |
Dyddiad | 1913 |
---|
Cau