Sêr-ddewiniaeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Grŵp o systemau, traddodiadau a chredoau lle mae gwybodaeth o safle ymddangosiadol planedau a lloerenau'r gofod i'w weld yn ddefnyddiol wrth geisio deall a dehongli gwybodaeth am bersonoliaeth person yw sêr-ddewiniaeth neu astroleg (Groeg: ἄστρον, ἄστρου ástron, ástrou "seren" + λόγος, λόγου lógos, lógou, "astudiaeth").
Gelwir person sy'n ymarfer sêr-ddewiniaeth, yn sêr-ddewin neu'n astrolegydd. Mae cofnodion o'r arfer hwn yn mynd nôl i tua'r 3 CC. Ym Mesopotamia a'r Hen Aifft roedd dosbarth arbennig o offeiriaid yn astudio'r nefoedd er mwyn ceisio darogan y dyfodol.
Datblygodd seryddiaeth yn y 17eg a'r 18g o'r hen wyddoniaeth a elwid yn astroleg. Seryddiaeth yw'r astudiaeth (parchus a gwyddonol) o'r gofod. Ond mae hen wyddoniaeth yr astrolegydd yn llawer mwy niwlog, cyfrin a heb ei dderbyn gan y byd gwyddonol modern. Mae'n perthyn yn agos at ddewiniaeth, yr horosgop, cyfriniaeth, ofergoeliaeth a darogan y dyfodol.
Er hyn, mewn holiadur yn 2005, dywedodd 25% o Americanwyr, 25% o Ganadiaid, a 24% o Brydeinwyr eu bod yn credu ynddo.[1] Bu Madam Sera ar Radio Cymru yn mynd drwy rannau o'r horosgop. Fe welir hefyd ddamcaniaethau bron ym mhob un o'r papurau tabloid yn ddyddiol. Canodd Tecwyn Ifan am ofergoeliaeth.