Sigur Rós
From Wikipedia, the free encyclopedia
Band ôl-roc o Wlad yr Iâ ydy Sigur Rós. Maent yn enwog am eu cerddoriaeth gwreiddiol a llais falsetto y prif leisydd Jón Þór "Jónsi" Birgisson. Daw enw'r band o enw chwaer Jónsi, Sigurrós, sy'n golygu 'rhosyn buddugoliaeth'. Mae'r rhan fwyaf o'u caneuon yn cael eu canu yn Islandeg neu yn yr iaith ffug annealladwy Vonlenska sydd yn cael ei hadnabod fel Hopelandic yn Saesneg.