Swltan
teitl bonheddig a pharchusol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Brenin neu bennaeth gwladwriaeth Fwslimaidd yw swltan (amrywiad: syltan; o'r Saesneg sultan, seisnigiad o'r gair Arabeg سلطان). Yn wreiddiol roedd y gair swltan yn enw haniaethol yn golygu "nerth", "awdurdod", neu "rheolaeth", yn deillio o'r berfenw Arabeg سلطة sulṭah, sy'n golygu "awdurdod" neu "grym". Yn nes ymlaen cafodd ei ddefnyddio fel teitl rhai rheolwyr Mwslim a hawliai awdurdod sofranaidd ymarferol, h.y. heb fod yn ddibynnol ar awdurdod uwch, ond heb hawlio bod yn califfiaid; yn ogystal gallai fod yn deitl llywodraethwr talaith bwysig yn y califfiaeth dan galiff Baghdad.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
swltan Swleiman I o'r Ymerodraeth Otomaniad | |
Enghraifft o'r canlynol | teitl bonheddig, teitl parchusol, swydd |
---|---|
Math | brenin neu frenhines |
Daeth i ben | 1924 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Gelwir breninllin neu deyrnas a reolir gan swltan yn Swltanaeth (Arabeg: سلطنة).