Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru (Saesneg: Wales national football team) yw'r tîm sy'n cynrychioli Cymru mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Conffederasiwn | UEFA (Ewrop) | ||
---|---|---|---|
Hyfforddwr | Robert Page[lower-alpha 1] | ||
Capten | Aaron Ramsey | ||
Mwyaf o Gapiau | Gareth Bale (111) | ||
Prif sgoriwr | Gareth Bale (41) | ||
Cod FIFA | WAL | ||
Safle FIFA | 24 (24 Hydref 2019)[4] | ||
Safle FIFA uchaf | 8 (Hydref 2015) | ||
Safle FIFA isaf | 117 (Awst 2011) | ||
Safle Elo | 30 (18 Hydref 2019) [5] | ||
Safle Elo uchaf | 3 (1876~1885) | ||
Safle Elo isaf | 88 (Mawrth 2011) | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
yr Alban 4–0 Cymru (Glasgow; 26 Mawrth 1876) | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
Cymru 11–0 Iwerddon (Wrecsam; 3 Mawrth 1888) | |||
Colled fwyaf | |||
yr Alban 9–0 Cymru (Glasgow; 23 Mawrth 1878) | |||
Cwpan FIFA y Byd | |||
Ymddangosiadau | 2 (Cyntaf yn 1958) | ||
Canlyniad gorau | Rownd Go-gynderfynol, 1958 | ||
Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop | |||
Ymddangosiadau | 2 (Cyntaf yn 2016) | ||
Canlyniad gorau | Rownd Gyn-derfynol, 2016 | ||
Gwefan | faw.cymru/cy/ |
Tîm Cymru yw'r trydydd hynaf o holl dimau pêl-droed cenedlaethol y byd. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ar 25 Mawrth 1876 yn Glasgow. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru ar y Cae Ras, Wrecsam ar 5 Mawrth 1877, eto yn erbyn yr Alban.
Mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed ddwywaith, sef Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 a phencampwriaeth Ewro 2016. Llwyddodd Cymru hefyd i gyrraedd rownd yr wyth olaf o Bencampwriaethau Ewrop 1976, sef y flwyddyn olaf y cafodd y gystadleuaeth honno ei chynnal dros ddau gymal. Yn 2022, curodd Cymru dîm Wcráin, gan gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, cyfnod o 64 o flynyddoedd.
Yn Ebrill 2013, agorodd Parc y Ddraig, Canolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, yng Nghasnewydd.