Tractor
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cerbyd at waith amaethyddol yw tractor. Fel rheol mae gan dractor olwynion mawr yn y cefn gyda theiars cryf ac olwynion llai o lawer yn y blaen sy'n galluogi'r cerbyd i droi'n ebrwydd mewn lle cyfyng megis cornel cae. Defnyddir tractorau at bob math o waith ar y fferm, yn cynnwys aradu, cynaeafu cnydau a gwair, a chludo deunydd amrywiol o gwmpas y caeau.
Ffeithiau sydyn Math ...
Math | cerbyd oddi ar y ffordd, cerbyd modur amaethyddol, offer trwm, outdoor power equipment |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Un o'r mathau mwyaf adnabyddus o dractor yw'r Massey Ferguson, a adwaenir fel "Fergie". Ceir sawl math o dractor arbenigol yn ogystal, yn cynnwys tractorau JCB.