Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban (Saesneg: Scottish national football team) yn cynrychioli Yr Alban yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban (Saesneg: Scottish Football Association) (SFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r SFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Conffederasiwn | UEFA (Ewrop) | ||
---|---|---|---|
Hyfforddwr | Gordon Strachan | ||
Is-hyfforddwr |
Mark McGhee Stuart McCall | ||
Mwyaf o Gapiau | Kenny Dalglish (102) | ||
Prif sgoriwr |
Kenny Dalglish (30) Denis Law (30) | ||
Cod FIFA | SCO | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
Yr Alban 0–0 Lloegr (Partick, Yr Alban; 30 Tachwedd 1872) | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
Yr Alban 11–0 Iwerddon (Glasgow, Yr Alban; 23 Chwefror 1901) | |||
Colled fwyaf | |||
Wrwgwái 7–0 Yr Alban (Basel, Y Swistir; 19 Mehefin 1954) | |||
Cwpan FIFA y Byd | |||
Ymddangosiadau | 8 (Cyntaf yn 1954) | ||
Pencampwriaeth UEFA Ewrop | |||
Ymddangosiadau | 2 (Cyntaf yn 1992) | ||
Canlyniad gorau | 8 olaf, 1992 |
Yr Alban a Lloegr ydi'r ddau dîm hynnaf yn y byd, gyda'r ddwy wlad yn cwrdd yn y gêm bêl-droed rhyngwladol gyntaf ym 1872[1]. Mae'r Alban wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar wyth achlysur ac ym Mhencampwriaethau Ewrop ddwywaith.
Kenny Dalglish sydd â'r record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau dros Yr Alban ar ôl chwarae 102 o weithiau rhwng 1971 a 1986[2]. Sgoriodd Dalglish 30 o goliau dros ei wlad ac mae'n rhannu'r record fel prif sgoriwr Yr Alban gyda Denis Law[2].