Uncorn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Anifail mytholegol a bortreadir gan amlaf fel ceffyl gwyn ac iddo gorn hir sy'n tyfu o'i dalcen yw'r uncorn (hefyd ungorn ac unicorn, o'r gair Ffrangeg unicorne, o'r geiriau Lladin unus "un" + cornus "corn"). Mae'n symbol o ffrwythlonedd wrywaidd, fel y mae ei gorn hir yn awgrymu.
Ceir sawl cyfeiriad at y creadur yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Mae'n un o greaduriad amlycaf y bwystorïau canoloesol. Deillia'r cyfeiriadau ato yn y Gymraeg o gyfieithiadau o lyfr y Ffrancwr Richart de Fornival (1201 - c.1260), sef y Bestiaire d'Amour ("Bwystori Serch"). Dyma'r disgrifiad o'r uncorn a geir yng nghyfieithiad Llywelyn Siôn o waith Fornival:
Ac am hynny y delaist di fi drwy aroglau, megis y delir yr uncorn drwy aroglau morwyn ieuanc, am nad oes yn y byd un anifail mor anodd i ddala ag ef, ac un corn sydd iddo ynghanol ei dalcen, ac nid oes na dyn nac anifail a feiddo ei aros ond morwyn ieuanc lân wyry. Cans pan glywo ef aroglau y forwyn a'u mwyn serchogrwydd, ef a ddaw ati, ac ef a ry[dd] ei ben yn ei harffed hi, ac yna y cwsg ef, a'r helwr call a edwyn hynny, a phan êl ef i hela y gosod ef forwyn ar ei ffordd ef.[1]
Mae rhai haneswyr yn meddwl bod chwedl yr uncorn yn deillio o ddisgrifiadau teithwyr cynnar o'r rhinoseros. Yn y bwystorïau fe'i darlunir fel gelyn yr eliffant, sy'n ofni ei gorn hir. Fel yr adroddir uchod, gall helwyr ei ddal drwy dwyll, gan ddefnyddio morwyn i'w ddal.