Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Cymru yn yr Oesoedd Canol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Oesoedd Canol yng Nghymru yn ymestyn o tua 600 hyd at 1485.
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Mae ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain yn nodi dechreuad yr oesoedd canol yng Nghymru. Rhannwyd tiroedd y Cymry yn deyrnasoedd bach ac am gannoedd o flynyddoedd bu'r teyrnasoedd hyn yn ymladd yn erbyn goresgynwyr ac ymhlith ei gilydd er mwyn sefydlu awdurdod dros ardal mor eang â phosib o Gymru.
Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd Rhodri Mawr, yn wreiddiol yn frenin Teyrnas Gwynedd, a daeth yn frenin Powys a Ceredigion hefyd. Pan fu ef farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond gallodd ei ŵyr, Hywel Dda, ffurfio teyrnas Deheubarth trwy uno teyrnasoedd llai'r de-orllewin, ac erbyn 942 roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef a ffurfio Cyfraith Hywel trwy alw cyfarfod yn Hendy-gwyn ar Daf. Pan fu ef farw yn 950 gallodd ei feibion ddal eu gafael ar Ddeheubarth, ond adfeddiannwyd Gwynedd gan y frenhinllin draddodiadol.
Yn 1066 gyda ymosodiad y Normaniaid ar Loegr ar y gorwel. Gwelwyd tywysogion Deheubarth a Gwynedd yn amlygu eu hunain fel arweinyddion y frwydr hon rhwng diwedd y 11eg ganrif hyd at ddiwedd y 13eg ganrif.
Roedd yn wlad ble roedd y mwyafrfif helaeth o'r bobl yn siarad un iaith yn unig, sef Cymraeg ac roedd trefn arbennig i bwysigrwydd gwahanol grwpiau o bobl yn y gymdeithas. Roedd crefydd yn bwysig iawn ym mywydau bobl ac roedd rol allweddol gan yr abati a'r mynachlogydd ym mywydau bob dydd bobl.
Roedd lladd Llywelyn ap Gruffydd a’i frawd Dafydd ap Gruffudd yn 1282/3, yn dynodi cyfnod newydd yn hanes Cymru gyda’r Goncwest Edwardaidd yn cynrychioli mai awdurdod coron Lloegr oedd bellach yn teyrnasu yng Nghymru. Bu gweddill y 13eg ganrif hyd at ddiwedd y 15fed ganrif yn un ansefydlog a helbulus yn hanes Cymru. Ar ddechrau’r 15fed ganrif amlygodd Owain Glyndwr ei hun fel ffigwr amlwg ym mrwydr Cymru i ennill annibyniaeth eto wedi Concwest Edward. Bu nifer o wrthryfeloedd eraill yn ystod y cyfnod yma o dan arweinyddion eraill a ddangosai’r ymdeimlad cenedlaethol oedd ar gynnydd yng Nghymru wedi’r Goncwest. Yn 1485 enillodd Harri Tudur, oedd â’i wreiddiau yn nheulu’r Tuduriaid, Ynys Môn, Frwydr Maes Bosworth gan gychwyn ar gyfnod mwy sefydlog yn hanes Prydain. Gyda’r fuddugoliaeth hynny cychwynnodd cyfnod y Tuduriaid.