Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Y Chwyldro Diwydiannol yng Ngymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd y Chwyldro Diwydiannol yng Ngymru yn gyfnod o newid mewn cymdeithas pan ddatblygodd diwydiant i achosi newidiadau mawr yn y ffordd roedd pobl yn gweithio ac yn byw.
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
CBAC | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Yn 1750 roedd Prydain yn gwlad ble roedd y mwyafrif o’r bobl yn byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig i ond erbyn 1850 datblygodd i fod yn wlad ddiwydiannol ble roedd y mwyafrif yn byw yn y trefi a’r dinasoedd ac yn gweithio gyda pheiriannau. Erbyn hynny roedd Prydain yn cael ei gweld gan weddill y byd fel ‘gweithdy’r byd’ gan ei bod yn cynhyrchu 66% o lo y byd, 50% o haearn y byd a 50% o fetel y byd.
Roedd yn gyfnod, rhwng tua 1750 hyd at 1850, a welodd ddulliau newydd o gynhyrchu nwyddau a bwyd ar draws Ewrop ac yn Unol Daleithiau America. Dyma gyfnod pan welwyd:
- Newid o ddulliau llaw i ddyfeisiad a defnyddio peiriannau
- Newidiadau yn y ffordd o gynhyrchu haearn
- Mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o bŵer stêm a phŵer dŵr
- Datblygiad y sustemau ffatri gyda pheiriannau mecanyddol
- Twf aruthrol ym mhoblogaeth y wlad.
Gwelodd Gymru newidiadau yn ei ffordd o fyw ac yn ei ffordd o weithio yn sgil y Chwyldro Diwydiannol. Gyda datblygiad y gweithfeydd haearn yn Cymru yn ardal Merthyr a’r de-ddwyrain yn sir Fynwy gwelwyd trefi diwydiannol yn tyfu o gwmpas y gweithfeydd a’r ffatrioedd. Yn y gogledd-ddwyrain roedd gweithfeydd Bersham ac wedyn Brymbo wedi cael eu sefydlu gan y Brodyr Wilkinson ar ddiwedd y 18fed ganrif ac roedd y gweithfeydd copr yn Abertawe ac Amlwch wedi diwydianeiddio’r ardaloedd hynny. Daeth peiriannau yn rhan o fywyd gwaith pobl a chyda hynny daeth ffyrdd newydd o deithio a chludo nwyddau gyda’r camlesi a’r rheilffyrdd. Roedd pŵer corfforol a phŵer anifail a’r elfennau belllach wedi cael eu disodli gan bŵer stêm ac yn nes ymlaen trydan. Datblygodd trefi diwydiannol fel Merthyr, Abertawe ac yn nes ymlaen Caerdydd ond er mor ddeniadol oedd y cyflogau da yn y gweithfeydd roedd pris i’w dalu. Roedd peryglon y gwaith yn ofid cyson ac roedd amodau byw yn y trefi diwydiannol yn frwnt ac yn anodd.