Wicipedia:Ynglŷn â Wicipedia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia a ysgrifennir yn gydweithredol gan ddarllenwyr y safle hwn. Mae'r safle yn enghraifft o wici, sef math arbennig o wefan lle gall unrhyw un sydd â chysylltiad i'r rhyngrwyd olygu tudalennau trwy glicio ar y botwm golygu. Dechreuwyd y safle Saesneg yn 2001, ac mae'r fersiwn honno wedi tyfu i ddod yn un o'r safleoedd mwyaf poblogaidd ar y we. Nod y Wicipedia Cymraeg, a sefydlwyd yn 2003, yw efelychu'r llwyddiant hwnnw ac i ddod yn adnodd defnyddiol i siaradwyr Cymraeg ar y we.
Mae'n bwysig cofio fod gwahaniaethau sylfaenol yn bodoli rhwng Wicipedia a ffynonellau gwybodaeth traddodiadol. Gan fod yr hawl gan unrhyw un i olygu tudalennau, mae gwallau yn medru treiddio erthyglau, ac yn achlysurol ceir fandaliaeth neu wybodaeth anghywir mewn erthygl. Y ffordd orau i sicrhau bod y ffeithiau a gynhwysir mewn erthygl yn gywir yw edrych ar y ffynonellau a roddwyd ynddi; os gwelwch erthygl sydd angen ffynonellau, gallwch helpu drwy ychwanegu ffynonellau perthnasol.