Y Chwyldro Oren
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres o brotestiadau yn sgil etholiad arlywyddol Tachwedd 2004 yn Wcráin oedd y Chwyldro Oren (Wcreineg: Помаранчева революція trawslythreniad: Pomarancheva revoliutsiia) a arweiniodd at gynnal ail bleidlais fis Rhagfyr. Cyhuddwyd yr awdurdodau o rigio'r etholiad i sicrhau buddugoliaeth i Viktor Yanukovich, yr ymgeisydd a ffafriwyd gan yr Arlywydd Leonid Kuchma, ar draul ei brif wrthwynebydd, Viktor Yushchenko. Ar 22 Tachwedd, trannoeth yr ail rownd o bleidleisio, ymgynullodd protestwyr am y diwrnod cyntaf o wrthdystio, yn bennaf yn Sgwâr Annibyniaeth yn y brifddinas Kyiv. Yn ogystal â'r gwrthdystiadau dyddiol yn Kyiv, cynhaliwyd hefyd streiciau cyffredinol ac ymgyrchoedd o anufudd-dod sifil ar draws y wlad.
Trem ar Sgwâr Annibyniaeth, Kyiv, ar ddiwrnod cyntaf y protestiadau (22 Tachwedd 2004). | |
Enghraifft o'r canlynol | chwyldro |
---|---|
Rhan o | colour revolution, yr Ail Ryfel Oer |
Dechreuwyd | 22 Tachwedd 2004 |
Daeth i ben | 23 Ionawr 2005 |
Gwladwriaeth | Wcráin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
O ganlyniad i'r protestiadau, gorchmynnodd Goruchaf Lys Wcráin i'r bleidlais rhwng Yanukovych a Yushchenko gael ei hail-gynnal. Ar 26 Rhagfyr 2004, enillodd Yushchenko yr etholiad arlywyddol gyda 51.99% o'r pleidleisiau, o gymharu â 44.2% i Yanukovych. Bu'r gefnogaeth i Yushchenko gryfaf yng ngogledd a gorllewin Wcráin, a phleidlais Yanukovych ar ei mwyaf yn neheubarth a dwyrain y wlad. Cydnabuwyd y canlyniadau hynny yn ddilys gan arsylwyr etholiadol, a daeth y Chwyldro Oren i'w derfyn felly ar 23 Ionawr 2005, pan sefydlwyd Viktor Yushchenko yn ffurfiol yn arlywydd Wcráin.
Yn ystod yr helyntion, cefnogwyd Yanukovych yn enillydd cyfreithlon yr etholiad gan Vladimir Putin, Arlywydd Ffederasiwn Rwsia. Bu'r rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America, yn cwestiynu'r canlyniadau ac yn ffafrio ymgyrch Yushchenko. Câi'r Chwyldro Oren ei ystyried gan nifer fel datblygiad pwysig wrth sicrhau'r drefn ddemocrataidd yn Wcráin. Roedd llywodraethau Rwsia a Belarws yn amau sbardun y protestiadau, ac yn cyhuddo carfanau gwleidyddol ac economaidd y Gorllewin o newid llywodraeth Wcráin dan gochl "chwyldro lliw".