Ynysoedd Blasket
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ynysoedd oddi ar arfordir Swydd Kerry yn ne-orllewin Gweriniaeth Iwerddon yw Ynysoedd Blasket (Gwyddeleg: Na Blascaodaí, Saesneg: Blasket Islands).
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | grŵp o ynysoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Kerry |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Uwch y môr | 292 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 52.0892°N 10.5469°W |
Cau
Yr ynys fwyaf yw An Blascaod Mór ( Great Blasket Island); mae'r ynysoedd eraill yn cynnwys Beiginis (Beginish), Inis Mhick Uileáin (Inishvickillane), Inis Tuaisceart (Inishtooskert) ac An Tiaracht (Tearaght Island). Ar un adeg, roedd cymuned unigryw, hollol Wyddeleg ei hiaith, yn byw yma. Gadawodd y trigolion olaf yr ynysoedd yn 1953.
Cynhyrchodd trigolion yr ynysoedd hyn nifer o weithiau llenyddol pwysig, yn arbennig hunangofiant Tomás Ó Criomhthain, An tOileánach ("Yr Ynyswr").