Abdullah II, brenin Iorddonen
brenin teyrnas Hashemaidd yr Iorddonen (1962- ) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Brenin Gwlad Iorddonen yw Abdullah II bin Al-Hussein (Arabeg: الملك عبد الله الثاني بن الحسين, al-Malik ʿAbdullāh aṯ-ṯānī bin al-Ḥusayn; ganwyd 30 Ionawr 1962). Daeth i'r orsedd ar 7 Chwefror 1999 wedi marwolaeth ei dad, y Brenin Hussein. Mae'n perthyn i'r teulu Hashemite, teulu sydd wedi llywodraethu Gwlad Iorddonen ers 1921, ac sy'n hannu o linach merch Muhammad, sef Fatimah.[1][2][3]
Abdullah II, brenin Iorddonen | |
---|---|
Ganwyd | 30 Ionawr 1962 Amman |
Man preswyl | Raghadan Palace |
Dinasyddiaeth | Gwlad Iorddonen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, ysgrifennwr, swyddog milwrol, teyrn |
Swydd | etifedd eglur, etifedd eglur, Custodian of the Holy Sites of Jerusalem, Brenin Gwlad Iorddonen |
Tad | Hussein, brenin Iorddonen |
Mam | Princess Muna Gardiner |
Priod | Y Frenhines Rania o'r Iorddonen |
Plant | Hussein bin Abdullah, Tywysog Gwlad Iorddonen, Y Dywysoges Iman bint Abdullah, Y Dywysoges Salma bint Al Abdullah, Y Tywysog Hashem bin Al Abdullah |
Llinach | Hashimiaid |
Gwefan | http://www.kingabdullah.jo |
llofnod | |
Ganed Abdullah yn Amman yn blentyn cyntaf i'r Brenin Hussein a'i ail wraig, y Dywysoges Muna a aned yn Chelmondiston, Suffolk, Lloegr. Fel mab hynaf y Brenin, roedd Abdullah yn etifedd amlwg nes i Hussein drosglwyddo'r teitl i'r tywysog Hassan, ewythr Abdullah, ym 1965. Dechreuodd Abdullah ei addysg yn Amman, gan barhau â'i addysg dramor. Dechreuodd ei yrfa filwrol yn 1980 fel swyddog hyfforddi yn Lluoedd Arfog yr Iorddonen, gan gymryd cyfrifoldeb o Lloedd Arbennig y wlad yn 1994, a daeth yn uwchfrigadydd (major general) yn 1998. Ym 1993 priododd Rania Al-Yassin (o dras Palesteinaidd), ac mae ganddynt bedwar o blant: y Tywysog Hussein, y Dywysoges Iman, y Dywysoges Salma a'r Tywysog Hashem. Ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth yn 1999, enwodd Abdullah yn etifedd y goron, a dilynodd Abdullah ei dad.[4][5] [6]