![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cd/2009_European_Parliament_Composition.svg/langcy-640px-2009_European_Parliament_Composition.svg.png&w=640&q=50)
Aelod Senedd Ewrop
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynrhychiolydd sydd wedi'i ethol i Senedd Ewrop yn Strasbourg, yw Aelod Senedd Ewrop neu ASE (weithiau: Aelod Seneddol Ewropeaidd.[1] Roedd 736 o ASEau yn etholiadau Ewropeaidd 2009 a 375 miliwn o etholwyr.
- Mae AS(E) yn cyfeirio yma. Am ystyron eraill, gweler AS (gwahaniaethu)
Pan ffurfiwyd Senedd Ewrop ar 10 Medi 1952, roedd ei strwythur yn bur wahanol ac etholwyd ASEau'n uniongyrchol gan lywodraethau unigol y gwledydd (neu'r 'Aelod-Wladwriaethau'), o blith Aeldoau Seneddol a oedd eisoes wedi'u hethol yn lleol. Ers 1979, fodd bynnag, caed etholiadau yn yr Aelod-wladwriaethau'n un pwrpas i'w hethol i Senedd Ewrop. Mae'r dull yn amrywio o Aelod-wladwriaeth i Aelod-wladwriaeth, gan newid dros amser, er bod un rheol euraid: fod yn rhaid cynnwys elfen o gynrychiolaeth gyfrannol. Mewn rhai Aelod-wladwriaethau mae'r ASEau'n cael eu hethol i gynrychioli un etholaeth 'genedlaethol' (h.y. y genedl / Aelod-wladwriaeth) ond mewn Aelod-wladwriaeth eraill cynrychiolant ran (neu Ranbarth) o'r wlad honno.
Caiff etholiadau eu cynnal bob 5 mlynedd.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cd/2009_European_Parliament_Composition.svg/640px-2009_European_Parliament_Composition.svg.png)
Plaid Pobl Ewrop (221)
Sosialwyr (191)
Rhyddfrydwyr (85)
Plaid Werdd Ewrop a Chynghrair Rhydd Ewrop (68)
Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop (70)
Chwith Unedig Ewropeaidd/Chwith Gwyrdd Nordig (52)
Rhyddid Ewrop a Democratiaeth Uniongyrchol (48)
Arall (52)
Clystyrir pob ASE (ar wahân i 27 ohonynt) mewn grwpiau, yn ôl eu daliadau gwleidyddol. Er enghraifft, daw Plaid Lafur Iwerddon a Phlaid Sosialaidd yr Eidal at ei gilydd fel aelodau o'r grŵp 'Clymblaid y Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid dros Ewrop'.