![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/ba/Anorexia_case_1900.jpg/640px-Anorexia_case_1900.jpg&w=640&q=50)
Anorecsia nerfosa
From Wikipedia, the free encyclopedia
Anhwylder bwyta ydy anorecsia nerfosa. Nodweddir y cyflwr gan unigolion yn gwrthod pwysau corfforol iachus, a'u hofn obsesiynnol fod eu pwysau'n cynyddu. Achosir hyn gan hunan-ddelwedd gwyrdroedig[1] a achosir gan dueddiadau ymenyddol amrywiol sy'n effeithio ar y modd y mae unigolyn yn gwerthuso ac yn meddwl am eu cyrff, bwyd a bwyta.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, afiechyd meddwl ![]() |
---|---|
Math | anhwylder bwyta, clefyd ![]() |
![]() |
Er bod yna ddelwedd ystrydebol fod anorecsia nerfosa yn effeithio ar fenywod ifanc cawcasaidd, gall effeithio ar ddynion a menywod o bob oed, hil a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol a diwylliannol.[2][3][4][5][6]
Ledled y byd amcangyfrifir fod anorecsia'n effeithio oddeutu dwy filiwn o bobl (amcangyfrifon 2013).[7] Hynny yw, mae'n digwydd mewn 0.9% - 4.3% o ferched a 0.2% i 0.3% o ddynion gwledydd y Gorllewin, rybryd yn ystod eu bywydau.[8] Mae tua 0.4% o ferched wedi'u heffeithio ar unrhyw flwyddyn. Mae hyn yn ddeg gwaith yn fwy na gyda dynion.[8] Mae cyfraddau gwledydd tlota'r byd yn fwy niwlog, heb ddata digonol. Yn 2013 amcangyfrifir fod dros 600 o bobl wedi marw o anorecsia drwy'r byd. Cynnydd yn y niferoedd o 400 o farwolaethau yn 1990.[9]