C.P.D. Tref Aberystwyth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed o dref Aberystwyth, Ceredigion yw Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth (Saesneg: Aberystwyth Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.
Ffeithiau sydyn Enw llawn, Llysenwau ...
Enw llawn | C.P.D. Tref Aberystwyth | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | Aber Black and Greens The Seasiders | ||
Sefydlwyd | 1884; 139 blynedd yn ôl (1884) | ||
Maes | Coedlen y Parc Aberystwyth (sy'n dal: 5,000 (1,002 yn eistedd)) | ||
Cadeirydd | Donald Kane | ||
Rheolwr | Tony Pennock | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
2022/23 | 10. | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
| |||
Cau
Ffeithiau sydyn Rheolwr, Cynghrair ...
Rheolwr | Emyr Jones |
---|---|
Cynghrair | WPL Development League - De |
2016–17 | 7fed |
Cau
Ffeithiau sydyn Rheolwr, Cynghrair ...
Rheolwr | Kevin Jenkins |
---|---|
Cynghrair | Uwch Gynghrair Merched |
2016–17 | 9fed |
Cau
Ffeithiau sydyn Sefydlwyd, Hyfforddwr ...
Sefydlwyd | 2013 |
---|---|
Hyfforddwr | Mike Price, Paul-Luke Loveridge, Iestyn Jones, Eirian Reynolds, |
Cynghrair | Uwch Gynghrair Gorllewin Cymru (Dan Anfantais) |
Cau
Ffurfiwyd y clwb ym 1884[1] ac maent wedi codi Cwpan Cymru unwaith, ym 1900, yn ogystal â chynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Ewropeaidd UEFA ar dair achlysur. Maent wedi bod yn aelodau o Uwch Gynghrair Cymru ers ei sefydlu ym 1992.
Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref ar Goedlen y Parc, Aberystwyth, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,002 o seddi. Mae gan y Clwb hefyd dîm Merched, tîm anabl a gwahanol dimau ieuenctid.