Celtic Connections
gŵyl gerddoriaeth Geltaidd a'r byd a gynhelir yn flynyddol yn Glasgow, yr Alban / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gŵyl gerddoriaeth yw Celtic Connections a gychwynnwyd yn 1994 yn Glasgow, yr Alban, ac a gynhelir bob mis Ionawr. Gyda dros 300 o gyngherddau, ceilidhau, sgyrsiau, digwyddiadau am ddim, sesiynau hwyr y nos a gweithdai, mae’r ŵyl yn canolbwyntio ar gerddoriaeth Albanaidd draddodiadol ac mae hefyd yn cynnwys artistiaid gwerin, a cherddoriaeth byd rhyngwladol. Mae’r ŵyl yn cael ei chynhyrchu a’i hyrwyddo gan Glasgow Concert Halls. Penodwyd Donald Shaw, un o sylfaenwyr y grŵp gwerin Albanaidd, Capercaillie, yn gyfarwyddwr artistig Celtic Connections yn 2006, swydd a ddaliodd tan 2018.[1].
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dechrau/Sefydlu ...
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad sy'n ailadrodd |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1994 |
Lleoliad | Glasgow |
Rhanbarth | Yr Alban |
Gwefan | https://www.celticconnections.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau