Chelsea Manning
From Wikipedia, the free encyclopedia
Milwr ym Myddin yr Unol Daleithiau yw Chelsea Elizabeth Manning[1] (ganwyd Bradley Edward Manning, 17 Rhagfyr 1987) a gafwyd yn euog gan lys milwrol yng Ngorffennaf 2013, o dorri Deddf Ysbïo 1917 a throseddau eraill, am ddatgelu bron i dri chwarter miliwn o ddogfennau milwrol a diplomyddol o natur ddirgel neu gyfrinachol i WikiLeaks.[2] Cafodd Manning ei dedfrydu yn Awst 2013[3] a'i rhyddhau ar 17 Mai 2017 yn unol â newid dedfryd gan yr Arlywydd Barack Obama.[4]
Chelsea Manning | |
---|---|
Ganwyd | Bradley Edward Manning 17 Rhagfyr 1987 Dinas Oklahoma |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | person milwrol, gwyddonydd cyfrifiadurol, ymgyrchydd, intelligence analyst |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Gwobr/au | Seán MacBride Peace Prize, Sam Adams Award, Whistleblower Prize, Gwobr EFF, US Peace Prize |
llofnod | |
Menyw drawsryweddol yw Manning, a gyhoeddodd y diwrnod wedi ei dedfryd yr oedd ganddi hunaniaeth rhywedd fenywol ers ei phlentyndod, ac yn dymuno cael yr enw Chelsea[5] ac i gychwyn ar therapi newid hormonau i newid ei rhyw fiolegol o wryw i fenyw.[6][7][8][9][10] O'i phlentyndod hyd y mwyafrif o'i chyfnod yn y fyddin, Bradley oedd ei henw. Cafodd ddiagnosis o dysfforia rhywedd yn 2013.[11]
Cafodd ei phenodi'n ddadansoddwr cudd-wybodaeth i uned o'r fyddin yn Irac, a chanddi yno fynediad i gronfeydd data o natur ddirgel. Yn nechrau 2010, rhyddhaodd wybodaeth ddirgel i WikiLeaks a chyfaddefodd hyn ar-lein i Adrian Lamo, arbenigwr ar ddiogelwch cyfrifiadurol. Rhodd Lamo wybod i adran wrth-ysbïo'r fyddin a chafodd Manning ei harestio ym mis Mai'r flwyddyn honno. Ymhlith y dogfennau oedd fideos o gyrch awyr yn Baghdad ar 12 Gorffennaf 2007 a chyrch awyr Granai yn 2009; 251,287 o geblau diplomyddol yr Unol Daleithiau;[12] a 482,832 o adroddiadau'r fyddin a adwaenir hwyrach yn "Gofnodion Rhyfel Irac"[13] a "Dyddiadur Rhyfel Affganistan".[14] Cyhoeddid y mwyafrif o'r dogfennau gan WikiLeaks a chyfryngau eraill rhwng Ebrill a Tachwedd 2010.[15][16][17][18][19]
Cafodd Manning ei chyhuddo o 22 o droseddau, gan gynnwys cynorthwyo'r gelyn sy'n dwyn y gosb eithaf.[20][21][22][23] Cafodd ei dal ym Mrig Corfflu'r Môr-filwyr, Quantico yn Virginia o Orffennaf 2010 i Ebrill 2011, dan statws Atal Niwed—carchariad unigol mewn ffaith a chyfyngiadau eraill a berodd pryderon o amgylch y byd—cyn iddi gael ei throsglwydo i Fort Leavenworth, Kansas, ac yno y gallai bod yng nghwmni carcharorion eraill.[24][25][26] Plediodd yn euog i 10 o'r cyhuddiadau ym mis Chwefror 2013.[27] Cychwynodd yr achos Unol Daleithiau v. Manning ar y cyhuddiadau eraill ar 3 Mehefin 2013, ac ar 30 Gorffennaf cafwyd yn euog o 17 o'r cyhuddiadau gwreiddiol a chyhuddiadau diwygiedig o pedwar trosedd arall, ond cafwyd yn ddieuog o gynorthwyo'r gelyn.[28][29][30][31] Cafodd ei dedfrydu i garchar am 35 mlynedd ym Marics Disgyblaethol yr Unol Daleithiau yn Fort Leavenworth.[32] Ar 17 Ionawr 2017, fe newidiodd Barack Obama ddedfryd Manning i gyfanswm saith mlynedd o garchariad ers dyddiad ei harestiad gan yr awdurdodau milwrol (20 Mai 2010).[33]
Cafwyd ymateb byd-eang o bob safbwynt i ddatguddiadau Manning, ei harestiad, a'i dedfryd. Ysgrifennodd Denver Nicks, un o fywgraffyddion Manning, yr oedd y wybodaeth a ryddhawyd yn un o achosion y Gwanwyn Arabaidd yn Rhagfyr 2010[34] a disgrifwyd Manning yn arwr tebyg i Dyn y Tanc a hefyd yn fradwr chwerw yn erbyn ei lywodraeth.[35] Roedd rhai pobl amlwg yn yr Unol Daleithiau wedi galw am ei ddienyddio. Mae Julian Assange, prif olygydd WikiLeaks, wedi disgrifio Bradley fel "arwr heb ei ail" ("unparalleled hero").[36] Yn 2011 ac eto yn 2012, cafodd ei enwebu am Wobr Heddwch Nobel, a hynny gan Oklahoma Center for Conscience and Peace Research a thri aelod seneddol o Ynys yr Iâ. Ysgrifennodd Graham Nash a James Raymond gân i'w gefnogi; teitl y gân oedd geiriau cyfreithiwr Manning pan ofynwyd iddo sut oedd ei iechyd: "Almost Gone."[37] Condemniai hyd y dedfryd gan Reporters sans frontières a'i welodd yn enghraifft o safle fregus y rhai sy'n canu cloch.[38]