Courtney Love
actores a chyfansoddwr a aned yn 1964 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cantores Americanaidd o dras Gymreig a Gwyddelig yw Courtney Love (ganwyd 9 Gorffennaf 1964) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gitarydd, cyfansoddwr caneuon, actores ac awdur.
Courtney Love | |
---|---|
Ffugenw | Courtney Michelle Love, Courtney Love Cobain, Coco Rodriguez, Courtney Michelle Cobain, Love Michelle Harrison, Courtney Michelle Menely |
Llais | Courtney Love BBC Radio 4 - Woman's Hour 4 April 2014.ogg, Courtney Love BBC Radio 4 - Woman's Hour 4 April 2014 (with reference to her own Wikipedia).ogg |
Ganwyd | Courtney Michelle Harrison 9 Gorffennaf 1964 San Francisco |
Man preswyl | Los Angeles |
Label recordio | Sympathy for the Record Industry |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gitarydd, canwr, actor, cyfansoddwr, cerddor, actor ffilm, artist recordio |
Arddull | cerddoriaeth roc, roc amgen, grunge |
Math o lais | contralto |
Tad | Hank Harrison |
Mam | Linda Carroll |
Priod | James Moreland, Kurt Cobain |
Plant | Frances Bean Cobain |
Perthnasau | Paula Fox, Paul Hervey Fox, Elsie Fox |
Gwefan | https://www.courtneylove.com |
llofnod | |
Ganed Courtney Michelle Harrison yn San Francisco ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Taleithiol Portland a Choleg y Drindod, Dulyn. Priododd Kurt Cobain ac mae Frances Bean Cobain yn blentyn iddi.[1][2][3][4][5]
Roedd yn ffigwr amlwg yn sîn pync a grunge y 1990au, ac mae ei gyrfa wedi rhychwantu pedwar degawd. Cododd Love i amlygrwydd fel prif leisydd y band roc amgen Hole, a ffurfiodd ym 1989. Tynnodd sylw'r cyhoedd i'w pherfformiadau byw penchwiban, heb ei ffrwyno a'i geiriau llawn gwrthdaro, ynghyd â'i bywyd personol hynod gyhoeddus yn dilyn ei phriodas â Kurt Cobain, blaenwr y band 'Nirvana'.