Cynhadledd Quebec (1943)
cynhadledd RhB2 i drafod strategaeth y DU a'r UDA. Cynhalwidy yn Quebec / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Cynhadledd Quebec, a elwir hefyd wrth ei enw côd, Cynhadledd Quadrant, yn gynhadledd strategol filwrol gyfrinachol a gynhaliwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda chyfranogiad llywodraethau o'r Deyrnas Unedig, Canada a'r Unol Daleithiau. Cynhaliwyd y gynhadledd yn ninas Quebec, Canada rhwng 17 - 24 Awst 1943.[1] Fe’i cynhaliwyd yng nghaer ddinesig y Château Frontenac. Y prif gyfranogwyr oedd Winston Churchill, Franklin D. Roosevelt a William Lyon Mackenzie King (Prif Weinidog Canada). Gwahoddwyd Stalin, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, ond methodd â mynychu am resymau milwrol.[2]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
Enghraifft o'r canlynol | cynhadledd |
---|---|
Dyddiad | 1943 |
Gwlad | UDA Canada Prydain Fawr |
Dechreuwyd | 17 Awst 1943 |
Daeth i ben | 24 Awst 1943 |
Lleoliad | Québec |
Gwladwriaeth | Canada |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Noder, y cynhaliwyd ail Gynhadledd Quebec ym mis Medi 1944.