Cynog Dafis
gwleidydd (1938- ) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Cynog Glyndwr Dafis (ganwyd 1 Ebrill 1938). Enillodd etholaeth Sir Aberteifi a Gogledd Penfro (a ddaeth yn etholaeth Ceredigion yn 1997) i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992.
Ffeithiau sydyn Rhagflaenydd, Olynydd ...
Cynog Dafis | |
Aelod Seneddol dros Geredigion | |
Cyfnod yn y swydd 9 Ebrill 1992 ā 10 Ionawr 2000 | |
Rhagflaenydd | Creuwyd yr etholaeth |
---|---|
Olynydd | Simon Thomas |
Cyfnod yn y swydd 6 Mai 1999 ā 1 Mai 2003 | |
Olynydd | Helen Mary Jones |
Geni | (1938-04-01) 1 Ebrill 1938 (86 oed) |
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Tadogaethau gwleidyddol eraill |
Y Blaid Werdd (DU) |
Cau
Bu'n athro am 2 flynedd ym Mhontardawe yn dysgu Cymraeg a Saesneg cyn cael swydd pennaeth Saesneg yn Ysgol Uwchradd Emlyn ym Medi 1962
Yn 1999 daeth yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros etholaeth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ymddiswyddodd fel aelod seneddol yn 2000, ac ymddeolodd o'r Cynulliad yn 2003.
Cydnabyddir ef fel un o brif ffurfwyr polisi Plaid Cymru yn ystod y cyfnod hwn.[1]