Dallineb lliw
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dallineb lliw yw'r gallu gostyngedig i weld lliw neu wahaniaethau mewn lliw.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder golwg, colour vision deficiency, dallineb, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae'r golwg yn dibynnu ar yr ymennydd i ddehongli ac integreiddio signalau o gelloedd sy'n sensitif i olau ar arwyneb y retina. I wahaniaethu rhwng lliwiau mae'r ymennydd yn cymhlitho'r mewnbwn gan gelloedd a elwir yn gonau, yn retina'r llygad. Os bydd diffyg mewn golwg lliw yn digwydd mae'n golygu nad oes gan yr unigolyn y swm cywir o bigmentau cemegol yn un neu fwy o'r conau hyn i brosesu lliw yn gywir.[2]