Din Dryfol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Din Dryfol yn garnedd gellog, sef math arbennig o siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig gerllaw pentref Aberffraw ar Ynys Môn. Credir ei fod yn dyddio o tua 3000 C.C.. Difrodwyd y siambr gladdu yma yn sylweddol dros y blynyddoedd, gan gychwyn yn y cyfnod Rhufeinig.Mae'n heneb gofrestredig ac yn cael ei chynnal gan Cadw. Dangosodd cloddio archeolegol fod y siambr gladdu yma, fel Trefignath, wedi ei hail-adeiladu nifer o weithiau. Ar y dechrau yr oedd siambr bedair ochrog ar yr ochr orllewinol, yna adeiladwyd siambr arall i'r dwyrain o'r gyntaf, gyda physt pren ger y fynedfa, yn anarferol iawn. Yn ddiweddarach ymestynnwyd y siambrau ymhellach i'r dwyrain eto. Cafwyd hyd i grochenwaith ac esgyrn wedi eu llosg.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | safle archaeolegol, heneb gofrestredig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.225196°N 4.404676°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN008 |
Cau