Ffilm llawn cyffro
genre ym myd y ffilmiau / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm yn y genre ffuglen llawn cyffro yw ffilm llawn cyffro, hynny yw stori llawn antur ac ymladd sy'n canolbwyntio ar arwr neu'r arwyr yn brwydro'n erbyn dyn drwg.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm |
---|---|
Math | ffuglen llawn cyffro, ffilm |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Gellir ystyried nifer o ffilmiau ysbïo, trosedd, rhyfel, a'r Gorllewin Gwyllt yn ffilmiau llawn cyffro cynnar. Datblygodd y genre yn y 1970au, yn enwedig gan ffilmiau crefftau ymladd Hong Kong a Japan. Yn y 1980au datblygodd y genre yn yr Unol Daleithiau, gyda sêr megis Arnold Schwarzenegger, Sylvester Stallone, a Bruce Willis. Mae nifer o ffilmiau llawn cyffro Americanaidd yn enwog am eu llinellau bachog (one-liners).[1] Ym mlynyddoedd diweddar mae ffilmiau archarwyr wedi cymryd lle ffilmiau llawn cyffro i raddau.