Gemau Olympaidd yr Haf 2004
From Wikipedia, the free encyclopedia
Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 2004, a adnabuwyd yn swyddogol fel Gemau'r XXVIII Olympiad, cynhaliwyd yn Athen, Gwlad Groeg o 13 Awst hyd 29 Awst 2004. Dilynwyd y rhain gyda Gemau Paralympaidd yr Haf 2004 o 17 Medi hyd 28 Medi. Cymerodd 10,625 o chwaraewyr ran mewn 301 o gystadlaethau mewn 28 o chwaraeon, un gystadleuaeth yn fwy na [[../|gemau 2004]].[2] Roedd Gemau Athen yn 2004 yn marcio'r tro cyntaf ers Gemau Olympaidd 1896 i bob gwlad gyda Phwyllgor Olympaidd Cenedlaethol gymryd rhan. Hon hefyd oedd y tro cyntaf ers 1896 i'r Gemau ddychwelyd i Athen.
Ffeithiau sydyn Dinas, Arwyddair ...
Dinas | Athens, Gwlad Groeg |
---|---|
Arwyddair | Welcome Home (Croeso Gartref) |
Gwledydd sy'n cystadlu | 201[1] |
Athletwyr sy'n cystadlu | 10,625[1] |
Cystadlaethau | 301 mewn 28 o Chwaraeon Olympaidd |
Seremoni Agoriadol | Awst 13 |
Seremoni Gloi | Awst 29 |
Agorwyd yn swyddogol gan | Llywydd Gwlad Groeg: Konstantinos Stephanopoulos |
Llw'r Cystadleuwyr | Zoi Dimoschaki |
Llw'r Beirniaid | Lazaros Voreadis |
Cynnau'r Fflam | Nikolaos Kaklamanakis |
Stadiwm Olympaidd | Stadiwm Olympaidd (Athens) |
Cau