Juventus F.C.
From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed o ddinas Torino yw Juventus Football Club S.p.A.. Mae'r clwb yn chwarae yn Serie A, prif adran pêl-droed Yr Eidal. Daw'r enw Juventus o'r Lladin iuventus (Cymraeg ieuenctid).
Enw llawn | Juventus Football Club | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) |
La Vecchia Signora ("Yr Hen Wraig") La Fidanzata d'Italia ("Cariad yr Eidal") I bianconeri Le Zebre ("Y Sebraod") La Signora Omicidi | ||
Sefydlwyd |
1 Tachwedd, 1897 (fel Sport Club Juventus) | ||
Maes | Juventus Stadium, Torino | ||
Cadeirydd | Andrea Agnelli | ||
Rheolwr | Massimiliano Allegri | ||
Cynghrair | Serie A | ||
2015-2016 | 1af | ||
|
Sefydlwyd clwb Sport Club Juventus ar 1 Tachwedd 1897 gan nifer o ddisgyblion Ysgol Ramadeg Massimo D'Azeglio Lyceum yn Torino, yn eu mysg, llywydd cyntaf y clwb, Eugenio Canfari.[1] ac, heb law am dymor 2006-07, mae'r clwb wedi treulio pob tymor yn Serie A ers ei sefydlu ym 1929.
Juventus yw'r clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed yn Yr Eidal ar ôl ennill 31 pencampwriaeth Serie A, 10 Coppa Italia, chwe Supercoppa Italiana, dau Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA, un Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop, tri Cynghrair Europa UEFA/Cwpan UEFA, un Tlws Intertoto, dau Super Cup UEFA a dau Cwpan Rhyng-gyfandirol[2]