Llid y stumog
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae llid y stumog (gastritis) yn llid ar leinin y stumog. Gall ddigwydd am gyfnod byr neu barhau dros gyfnod hir. Mae'n bosib nad oes unrhyw symptomau ond, pan mae symptomau i'w gweld, y mwyaf cyffredin yw poen yn rhan uchaf yr abdomen. Mae symptomau posibl eraill yn cynnwys cyfog a chwydu, bolio, colli archwaeth a llosg cylla.[1] Gall cymhlethdodau gynnwys gwaedu, briw ar y stumog, a thiwmorau stumog. Pan achosir y llid gan broblemau hunanimiwn, gall lefel isel o gelloedd coch y gwaed gael ei achosi gan ddiffyg fitamin B12, cyflwr sy'n cael ei adnabod fel anemia dinistriol.[2]
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd y stumog, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae achosion cyffredin yn cynnwys heintio gyda Helicobacter pylori a'r defnydd o gyffuriau gwrthlid ansteroidol. Mae achosion llai cyffredin yn cynnwys alcohol, ymsygu, cocên, afiechyd dwys, problemau hunainimiwn, therapi ymbelydrol a Chlefyd Crohn.[3][4] Gall endoscopi, math o belydr-X, profion gwaed, a phrofion carthion helpu gyda diagnosis. Gall sympromau llid y stumog fod yn arwydd o doriad myocardaidd. Mae cyflyrau eraill gyda symptomau tebyg yn cynnwys llid y pancreas, problemau coden y bustl, a chlefyd briw peptig.
Gellir atal llid y stumog drwy osgoi pethau sy'n ei achosi. Mae triniaeth yn cynnwys meddyginiaethau megis antasid, blocwyr H2, neu atalydd pwmp proton. Yn ystod trawiad aciwt gall yfed lidocen gludiog helpu.[5] Os yw'r llid wedi'i achosi gan gyffuriau gwrthlid ansteroidol, gallir peidio â chymryd rhain. Os yw H. pylori yn bresennol, gall gael ei drin gyda chyfuniad o wrthfiotigau megis amoxicillin a clarithromycin. I'r rhai sy'n dioddef o anemia dinistriol, argymhellir atchwanegiadau fitamin B1 trwy'r ceg neu trwy chwistrelliad . Fel arfer, cynghorir pobl i osgoi bwydydd sy'n achoi trafferthion iddynt.[6]
Credir bod llid y stumog yn effeithio ar tua hanner o boblogaeth y byd. Yn 2013, roedd tua 90 miliwn o achosion newydd o'r cyflwr.[7] Mae'r clefyd yn fwy cyffredin wrth i bobl heneiddio.[8] Achosodd y llid, ynghyd â chlefyd arall yn rhan gyntaf y perfedd sy'n cael ei alw'n duodenitis, tua 50,000 o farwolaethau yn 2015.[9] Darganfyddwyd H. pylori gyntaf yn 1981 gan Barry Marshall a Robin Warren.[10]