Mer esgyrn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mêr esgyrn yw'r meinwe gyswllt meddal brasterog sy'n llenwi'r rhan fwyaf o geudodau esgyrn. Gyda bodau dynol, mae cell goch y gwaed yn cael eu cynhyrchu gan rhan tu mewn i'r mêr ym mhen esgyrn hirion mewn proses a elwir yn waedfagu (hemopoiesis). Ar gyfartaledd mae mêr esgyrn yn gyfwerth a 4% o mas y corff o fodau dynol; mewn oedolyn sydd a mas o 65 kg (143 lb), fyddai mêr yn cyfateb i tua 2.6 kg (5.7 lb). Mae'r cyfansoddyn gwaedfagol (hematopoietig) o mêr yn cynhyrchu tua 500 biliwn cell gwaed y diwrnod, sy'n defnyddio system fasgwlaidd y mêr fel cwndid i system gylchredol y corff.[1] Mae mêr hefyd yn elfen allweddol i'r system lymffatig, gan gynhyrchu'r lymffosytau sy'n cefnogi system imiwnedd y corff.[2] Yn ychwanegol i'r celloedd gwaedfagol, mae'r mêr yn cynnwys meinwe bloneg yn ogystal a'r asgwrn meddal (trabecwlaidd). Gall y gydadwaith rhwng y gwahanol celloedd yma a'u ffactorau lleol maent yn creu cael effaith ar gelloedd gwaedfagol o fewn y gilfach bôn-gell gwaedfagol.
Enghraifft o'r canlynol | meinwe, dosbarth o endid anatomegol, cynnyrch bwyd |
---|---|
Math | meinwe, zone of bone organ, blood forming organ, endid anatomegol arbennig |
Yn cynnwys | bone marrow cells |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall trawsblaniad mêr cael ei gynnal er mwyn trin clefydau difrifol y mêr, gan gynnwys mathau penodol o canser megis lewcemia. Yn ychwanegol mae bôn-gelloedd wedi cael eu newid, yn llwyddiannus, i gelloedd niwral gweithredol,[3] ac hefyd, o bosib, yn gallu cael eu defnyddio i trin clefydau megis clefyd coluddyn llidus.[4]
Y ddau fath o mêr yw ‘mêr coch’ (Lladin: medulla ossium rubra), sy'n cynnwys yn bennaf meinwe waedfagol [celloedd cochion y gwaed] a ‘mêr melyn’ (medwla) sy'n cynnwys yn bennaf celloedd bras. Mae celloedd cochion, platennau a rhan helaeth o'r celloedd gwynion i'w weld yn y mêr. Mae'r ddau fath o mêr yn cynnwyr nifer o bibellu gwaed a carpilarïau. Ar eni, mae'r ddau fath o mêr yn goch. Gyda oedran, mae mwy a mwy ohono yn cael ei droi i'r mêr melyn; dim ond hanner o mêr oedolion sy'n goch. Mae mêr coch fel arfer yn cael ei ddarganfod yn yr esgyrn gwastad megis y pelfis, sternwm, penglog, asennau, fertebrâu a'r pedyll ysgwyddau (sgapwlâu) ag yn yr deunydd trabecwlaidd (asgwrn meddal) ar bennau ardyfiannol agosaf esgyrn hirion megis asgwrn y forddwyd a'r hwmerws. Mae mêr melyn iw weld yn y geudod medwlaidd, y gwacle yng nghanol esgyrn hirion. Mewn achosion difrifol o golli gwaed, mae'r corff yn gallu newid y mêr melyn i fer coch er mwyn cynyddu cynhyrchiad celloedd cochion y gwaed.