Olga Tokarczuk
From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofelydd, awdur straeon byrion, a bardd o Bwyles yw Olga Nawoja Tokarczuk[1] (ganwyd 29 Ionawr 1962)[2] sy'n un o lenorion mwyaf llwyddiannus y wlad.[3][4] Yn 2018, enillodd y Wobr Ryngwladol Man Booker am ei nofel Bieguni. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel 2018 am ei "dychymyg traethiadol sydd, gydag angerdd hollgynhwysfawr, yn cynrychioli croesi ffiniau fel ffurf ar fyw".[5] Cyhoeddwyd y wobr honno yn 2019, wedi i sgandal orfodi Academi Sweden i ohirio'r wobr yn 2018.[6]
Olga Tokarczuk | |
---|---|
Ffugenw | Natasza Borodin |
Ganwyd | 29 Ionawr 1962 Sulechów |
Man preswyl | Krajanów, Wrocław |
Dinasyddiaeth | Gwlad Pwyl |
Addysg | magister degree |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd, ysgrifennwr, seicolegydd, bardd, libretydd, cyhoeddwr, rhoddwr, sgriptiwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Jacob's Scriptures, Flights, House of Day, House of Night, Primeval and Other Times, Anna in the Tombs of the World, Drive Your Plow Over the Bones of the Dead, The Lost Soul, Playing on Many Drums, The Wardrobe, Q100295743, Q30915423 |
Arddull | barddoniaeth, traethawd, nofel, nofel hanesyddol |
Prif ddylanwad | Carl Gustav Jung, William Blake |
Plaid Wleidyddol | Y Gwyrddion |
Priod | Roman Fingas, Grzegorz Zygadło |
Plant | Zbigniew Fingas |
Gwobr/au | Srebrny Medal „Zasłużony Kulturze Gloria Artis”, Gwobr Samuel-Bogumil-Linde, Gwobr Kościelski, Kulturhuset Stadsteatern, Gwobr Nike, Gwobr Ryngwladol Man Booker, Brückepreis, Gwobr Nike, Śląski Wawrzyn Literacki, Gwobr Vilenica, Gwobr Lenyddol Nobel, Jan Michalski Prize, Honorary citizen of Wrocław, Prix Laure Bataillon, EBRD Literature Prize, Warwick Prize for Women in Translation, Warwick Prize for Women in Translation, Ambassador of the correct Polish language, Usedom Literature Prize, Q30903900, honorary citizen of Warsaw, Paszport Polityki, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Paszport Polityki, Q9293689, Q115207928 |
llofnod | |
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf yn 1993. Mae ei ffuglen hi yn aml yn cyfuno pynciau hanesyddol â themâu cyfriniol. Cyd-ysgrifennodd Tokarczuk, gyda'r gyfarwyddwraig Agnieszka Holland, y sgript ar gyfer y ffilm Potok (2017), sy'n addasiad o'i nofel Prowadź swój pług przez kości umarłych (2009). Mae Tokarczuk hefyd yn ymgyrchydd gwleidyddol amlwg ac yn gwrthwynebu llywodraeth adain-dde Gwlad Pwyl.[7]