Olivia Colman
actores a aned yn 1974 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Olivia Colman (ganed Sarah Caroline Olivia Colman; 30 Ionawr 1974),[1] yn actores Seisnig a ddaeth i amlygrwydd pan chwaraeodd rôl Sophie Chapman yn y gyfres gomedi Channel 4 Peep Show (2003–15). Mae hefyd wedi actio mewn cyfresi comedi eraill yn cynnwys Green Wing (2004–06), Beautiful People (2008–09), Rev. (2010–14) a Twenty Twelve (2011–12) ac amrywiaeth o rolau yn That Mitchell and Webb Look (2006–08), ar bwys ei chyd-sêr Peep Show David Mitchell a Robert Webb.
Olivia Colman | |
---|---|
Ganwyd | Sarah Caroline Colman 30 Ionawr 1974 Norwich |
Man preswyl | South London |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, digrifwr, actor llwyfan, actor ffilm, dyngarwr |
Adnabyddus am | The Favourite, The Crown, Fleabag |
Tad | Keith Colman |
Mam | Mary Leakey Colman |
Gwobr/au | Cwpan Volpi am yr Actores Orau, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, Gwobr Ffilm Ewropeaidd am Actores Gorau, Golden Globe Award for Best Actress – Television Series Drama, CBE, Chortle Awards |
Yn fwy diweddar, ymddangosodd mewn nifer o gyfresi a ffilmiau drama. Fe'i chanmolwyd yn ei rôl yn y ffilm 2011 Tyrannosaur,[2] a chwaraeodd Carol Thatcher yn The Iron Lady (2011), Y Frenhines Elizabeth, Mam y Frenhines yn Hyde Park on Hudson (2012), a Locke (2013). Mae wedi ennill tair Gwobr Deldu BAFTA, un ar gyfer y 'Perfformiad Comedi Gorau' gan fenyw ar gyfer Twenty Twelve ac un ar gyfer yr 'Actores Gefnogol Orau' yn Accused yn 2013.[3] Aeth yn ei blaen i ennill 'Gwobr yr Actores Orau' yn 2014 yn ei rôl fel D S Ellie Miller yn y gyfres dditectif ITV Broadchurch.
Yn 2016, chwaraeodd Angela Burr ym mini-gyfres y BBC, The Night Manager.