Pippa Middleton
From Wikipedia, the free encyclopedia
Selêb o Loegr yw Pippa Middleton (ganwyd 6 Medi 1983) a ddaeth i amlygrwydd ym mhriodas ei chwaer hŷn, Catherine, Duges Caergrawnt a William, dug Caergrawnt o Loegr, pan gyhoeddwyd lluniau o'i phen ôl mewn sgert dynn, drwy'r byd.[1][2][3][4][5][6][7][8][9]
Pippa Middleton | |
---|---|
Ganwyd | Philippa Charlotte Middleton 6 Medi 1983 Ysbyty Brenhinol Berkshire |
Man preswyl | Bucklebury |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | colofnydd, ysgrifennwr, cymdeithaswr |
Taldra | 65 modfedd |
Tad | Michael Middleton |
Mam | Carole Middleton |
Priod | James Matthews |
Plant | Arthur Matthews, Grace Matthews, Rose |
Mae hefyd yn golofnydd ac yn awdur dau lyfr eitha di-nod ar gynllunio partion ac un arall ar goginio, i godi arian at achos da.
Fe'i ganed yn Reading, Lloegr ar 6 Medi 1983 i Carole Middleton (née Goldsmith; g. 1955), cyn hostess ar awyrenau a Michael Middleton (g. 1949), cyn-weithiwr gyda British Airways. Fe'i bedyddiwyd yn St Andrew's Bradfield, Berkshire cyn i'r teulu symud i Bucklebury, Berkshire. Mynychodd ysgol breswyl breifat St Andrew's School, Pangbourne ac ysgol ddyddiol Downe House School, Newbury, Berkshire, Berkshire.
Wedi astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caeredin, gweithiodd Middleton am gyfnod byr yn 2008 i gwmni cysylltiadau cyhoeddus yn hyrwyddo cynhyrchion moethus a drud. Yna cafodd swydd rheoli digwyddiadau gyda Table Talk, cwmni wedi'i leoli yn Llundain sy'n trefnu digwyddiadau a phartïon corfforaethol.[10][11]