![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c6/Berlin%252C_Mitte%252C_Unter_den_Linden%252C_Hauptgeb%25C3%25A4ude_der_Humboldt-Universit%25C3%25A4t_02.jpg/640px-Berlin%252C_Mitte%252C_Unter_den_Linden%252C_Hauptgeb%25C3%25A4ude_der_Humboldt-Universit%25C3%25A4t_02.jpg&w=640&q=50)
Prifysgol Humboldt Berlin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Prifysgol gyhoeddus a leolir ym mwrdeistref Mitte ym mhrifddinas yr Almaen, Berlin, yw Prifysgol Humboldt Berlin (Almaeneg: Humboldt-Universität zu Berlin). Sefydlwyd Prifysgol Berlin (Universität zu Berlin) yn 1809 gan Ffredrig Wiliam III, brenin Prwsia, ar gais Wilhelm von Humboldt, ac agorodd yn 1809.[1] Hon yw'r hynaf o'r pedair prifysgol sydd ym Merlin. O 1828 hyd ei gau ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945, ei enw oedd Prifysgol Friedrich Wilhelm (Friedrich-Wilhelms-Universität).[2] Fe'i hail-agorwyd yn 1949 dan yr awdurdodau Sofietaidd yn Nwyrain Berlin gyda'r enw newydd Prifysgol Humboldt Berlin.[3]
![]() | |
Arwyddair | Universitas litterarum ![]() |
---|---|
Math | comprehensive university, prifysgol ymchwil gyhoeddus, cyhoeddwr mynediad agored, University of Excellence ![]() |
Enwyd ar ôl | Wilhelm von Humboldt, Alexander von Humboldt ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | list of universities, colleges, and research institutions in Berlin, list of universities in Germany ![]() |
Lleoliad | Dorotheenstadt, Berlin, Prince Henry Palace ![]() |
Sir | Berlin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 40 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.5181°N 13.3933°E ![]() |
Cod post | 10117 ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Wilhelm von Humboldt ![]() |
Rhennir y brifysgol yn naw cyfadran, gan gynnwys yr ysgol feddygol sy'n gysylltiedig hefyd â Phrifysgol Rydd Berlin. Mae ganddi 32,000 o fyfyrwyr sydd yn astudio cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn rhyw 189 o ddisgyblaethau.[4] Lleolir y prif gampws ar rodfa'r Unter den Linden yng nghanol Berlin. Cydnabyddir y brifysgol am arloesi model Humboldt yn addysg uwchradd, sydd wedi dylanwadu'n gryf ar brifysgolion eraill yn Ewrop a'r Gorllewin. Gelwir Humboldt felly yn "fam y brifysgol fodern".[5]