Prizren
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn Cosofo yw Prizren (Albaneg: Prizreni, Serbeg: Призрен, IPA Albaneg: prîzrɛn). Hi yw'r ail ddinas fwyaf yn y wlad ar ôl Prishtina, er mai hi oedd y prif dref a'r dref weinyddol i'r wlad ar un adeg. Lleolir hi yn sir Prizren. Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd gan ddinas Prizren 85,119 o breswylwyr tra bod gan y sir 177,781.[1].
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 186,986 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Prizren |
Gwlad | Cosofo |
Arwynebedd | 854 km² |
Uwch y môr | 450 metr |
Gerllaw | Lumbardhi i Prizrenit |
Cyfesurynnau | 42.23°N 20.74°E |
Cod post | 20000 |
Cau
Mae Prizren yn ddinas hanesyddol ar lan yr afon Bistrica ar lethrau mynyddoedd y Šar (Albaneg: Malet e Sharrit) yn neheudir Cosofo. Mae gan sir Prizren ffin ag Albania a Gweriniaeth Macedonia a cheir croesfan yno.
Gan deithio ar hyd y ffyrdd, mae Prezren yn 85 km i'r de o'r brifddinas, Prishtina, 175 km i'r gogledd ddwyrain o brifddinas Albania, Tirana a 99 km i'r gogledd orllewin o Skopje, prifddinas Macedonia.