Rhyfel Libanus 2006
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwrthdaro milwrol yn Libanus a gogledd Israel oedd Rhyfel Libanus 2006, a elwir hefyd yn Rhyfel Gorffennaf[18] yn Libanus ac Ail Ryfel Libanus[19] yn Israel. Mae'n rhan o frwydr ehangach rhwng yr Israeliaid a'i chymdogion, sef yr hyn a elwir yn wrthdaro Israel-Libanus sydd yntau'n rhan o wrthdaro Arabaidd-Israelaidd. Y brif frwydrwyr oedd lluoedd parafilwrol Hizballah a lluoedd arfog Israel. Dechreuodd y gwrthdaro ar 12 Gorffennaf 2006, a pharhaodd hyd at gadoediad gan y Cenhedloedd Unedig ar 14 Awst 2006, er iddo ddod i ben yn ffurfiol ar 8 Medi pan gododd Israel ei blocâd llyngesol ar Libanus.
Rhyfel Libanus 2006 | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o'r gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd a'r gwrthdaro Israelaidd-Libanaidd | |||||||
Mwg dros Tyre yn dilyn cyrch Israelaidd | |||||||
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
Hizballah Amal[1] PGL[2] FfPRhP-AC[3] |
Israel | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Hassan Nasrallah |
Dan Halutz Moshe Kaplinsky[4] Udi Adam | ||||||
Nerth | |||||||
600-1000 o frwydrwyr gweithredol 3000-10 000 o filwyr wrth gefn[5] |
Hyd at 10 000 o luoedd tirol. 30 000 yn y dyddiau olaf. (+ Awyrlu Israel & Chorfflu Morol Israel)[6][7] | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
Milisia Hizballah: Marw: |
Lluoedd Amddiffyn Israel: Marw: 119[13] | ||||||
Dinasyddion Libanaidd: 850[14]-1191[15] wedi marw 4409 wedi'u hanafu[15] Dinasyddion Israelaidd: |
Dechreuodd y gwrthdaro ar ôl i Hizballah saethu rocedi Katyusha a morterau tuag at bentrefi Israelaidd ar y goror rhwng Israel a Libanus,[20] i ddargyfeirio sylw o uned Hizballah arall a gipiodd dau filwr Israelaidd, a lladd tri arall. Dywedodd Hizballah iddynt gipio'r milwyr y tu fewn i Libanus. Ceisiodd lluoedd Israel achub y milwyr ond roeddent yn aflwyddiannus, a chollant bump arall yn yr ymgais. Anafwyd pum milwr a phum sifiliad arall yn yr ymosodiadau. Ymatebodd Israel gyda chyrchoedd awyr a thân arfau trwm ar dargedau yn Libanus, a difrodwyd adeiladau Libanaidd gan gynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Rafik Hariri a ddefnyddiodd Hizballah i fewnfudo arfau yn ôl awdurdodau Israel, cafwyd blocâd awyr a llyngesol,[21] a goresgynnwyd tir de Libanus. Yna lawnsiodd Hizballah mwy o rocedi i ogledd Israel a buont yn rhyfela'n herwfilwrol yn erbyn Lluoedd Amddiffyn Israel.[22][23]