Rhywogaeth mewn perygl
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhywogaeth mewn perygl yw rhywogaeth o anifail neu blanhigyn, neu ffwng sy'n debygol iawn o ddifodiant (o ddiflannu) yn y dyfodol agos. Gall rhywogaethau fod mewn perygl oherwydd ffactorau megis colli cynefinoedd, potsian neu rhywogaethau ymledol yn dod i'r cynefin. Mae Rhestr Goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) yn rhestru statws cadwraeth llawer o rywogaethau byd-eang, a cheir asiantaethau amrywiol eraill sy'n asesu statws rhywogaethau o fewn ardaloedd penodol. Mae gan lawer o genhedloedd gyfreithiau sy’n gwarchod rhywogaethau, er enghraifft, gwahardd hela, cyfyngu ar ddatblygu tir, neu’n creu ardaloedd gwarchodedig. Ceir llawer o ymdrechion dros gadwraeth rhywogaethau a'u hamgylchedd, megis bridio mewn mannau diogel ac adfer cynefinoedd.
Teigr Siberia, is-rywogaeth sydd mewn perygl difrifol. | |
Enghraifft o'r canlynol | statws gadwraeth |
---|---|
Math | rhywogaeth dan fygythiad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Statws cadwraeth unrhyw rywogaeth yw'r tebygrwydd y gallai'r rhywogaeth honno wynebu difodiant. Y mwyaf adnabyddus o'r rhestriprif restr o ran statws cadwraeth yw Rhestr Goch yr IUCN.
Mae categoriau'r IUCN yn cynnwys:
- Wedi ei ddifodi: dim unigolion o'r rhywogaeth ar ôl, er enghraifft y Dodo.
- Wedi ei ddifodi yn y gwyllt: rhai unigolion ar ôl, ond dim poblogaeth naturiol yn y gwyllt.
- Mewn perygl difrifol: siawns uchel iawn o ddifodiant yn y dyfodol agos, er enghraifft Rheinoseros Jafa.
- Mewn perygl: siawns uchel o ddifodiant yn y dyfodol, er enghraifft y Morfil Glas, Teigr, Albatros
- Archolladwy: siawns uchel o ddifodiant yn y tymor hir, er enghraifft y Llew, Gaur.
- Dibynnu ar gadwraeth: er nad oes bygythiad ar hyn o bryd, mae'n ddibynnol ar raglenni cadwraeth, er enghraifft Caiman Du
- Bron dan fygythiad: gall ddod dan fygythiad yn y dyfodol agos.
- Dim bygythiad: dim bygythiad ar hyn o bryd.
Mae gweithgaredd dynol yn aml yn gallu peryglu rhai rhywogaethau.[1][2]