Shirin Ebadi
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures o Iran yw Shirin Ebadi (Persieg: شيرين عبادى; Širin Ebādi; ganwyd 21 Mehefin 1947) sy'n farnwr, gweithredydd dros hawliau dynol, ymgyrchydd dros heddwch, cyfreithiwr a ffeminist.
Shirin Ebadi | |
---|---|
Ganwyd | 21 Mehefin 1947 Hamadan |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | Iran |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, ysgrifennwr, amddiffynnwr hawliau dynol, ymgyrchydd heddwch, cyfreithiwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, gwleidydd, cyfreithegwr |
Swydd | barnwr |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Commandeur de la Légion d'honneur, Gwobr Goffa Thorolf Rafto, Gwobr Hawliau dynol Felix Ermacora, Gwobr James Parks Morton am Rannu Ffydd, doctor honoris causa Prifysgol Concordia, Doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol British Columbia, honorary doctorate of the University of Lleida, Leibniz-Ring-Hannover |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Hamadan (poblogaeth: 473,149) ar 21 Mehefin 1947. Roedd Ebadi yn byw yn Tehran, ond mae wedi bod yn alltud yn y DU ers Mehefin 2009 oherwydd y cynnydd yn erledigaeth dinasyddion o Iran sy'n feirniadol o'r drefn bresennol.[1][2][3][4] [5][6]
Mae Shirin Ebadi yn cefnogi polisi "y pwysedd mwyaf" ar Iran ac mae wedi galw dro ar ôl tro am sancsiynau gan y Gorllewin yn erbyn Iran. Mae Ebadi yn gefnogol i raglen olew-am-fwyd ar gyfer Iran lle na all Iran ond derbyn bwyd a chyffuriau o'r tu allan yn gyfnewid am olew.
Yn 2004, fe'i rhestrwyd gan y cylchgrawn Forbes fel un o'r "100 merch mwwyaf pwerus yn y byd".[7]