Victor Spinetti
actor a chyfarwyddwr theatr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor o Gymru oedd Victor Spinetti (ganwyd Victorio G. A. Spinetti; 2 Medi 1929 - 18 Mehefin 2012).[1] Ymddangosodd mewn dwsinau o ffilmiau, a dramau llwyfan drwy gydol ei yrfa o hanner canrif, gan gynnwys tair ffilm y Beatles: A Hard Day's Night, Help! a Magical Mystery Tour.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Victor Spinetti | |
---|---|
Ganwyd | 2 Medi 1929 Cwm |
Bu farw | 18 Mehefin 2012 Trefynwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, ysgrifennwr, digrifwr, bardd, actor, cyfarwydd |
Gwobr/au | Gwobr y 'Theatre World' |
Cau
Actiodd yn The Return of the Pink Panther ac yn Under the Cherry Moon ac yn negawd olaf ei yrfa bu'n actio gyda The Royal Shakespeare Company. Mae ei frawd Henry Spinetti yn gerddor adnabyddus.