Adeilad Liver, Lerpwl
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae’r Adeilad Liver yn adeilad ar lan Afon Merswy ynghanol Lerpwl, ac yn enwog fel un o ‘Three Graces’ y ddinas gyda Adeilad Porthladd Lerpwl ac Adeilad Cunard. Mae’r adeilad 322 troedfedd o daldra. Ar un adeg roedd yr adeilad yr un talaf yn Ewrop. Mae’r adeilad yn rhestredig (Gradd I) ac mae 15 o loriau.[1] Mae gan yr adeilad 2 dŵr, gyda chlociau, gwnaethpwyd gan Gent a Chwmni o Gaerlŷr.[2] Mae tryfesur y clociau 25 troedfedd, yn fwy na Big Ben yn Llundain[3] Ychwanegwyd clychau elegtronig ym 1953 ar gof aelodau’r Gymdeithas sy wedi marw yn ystod y 2 ryfel byd.
Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...
Math | adeilad swyddfa |
---|---|
Enwyd ar ôl | Royal Liver Assurance |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Lerpwl |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.4058°N 2.9958°W |
Cod OS | SJ3388090329 |
Arddull pensaernïol | Art Nouveau |
Perchnogaeth | Corestate Capital |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Cost | 800,000 punt sterling |
Manylion | |
Cau