Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (Saesneg: attention deficit hyperactivity disorder neu ADHD) yn anhwylder meddyliol o fath newroddatblygol.[1][2] Mae ei nodweddion yn cynnwys problemau cymryd sylw, gor-weithgaredd, neu anhawster rheoli ymddygiad nad yw'r arferol i berson o'i oedran. Mae'r symtomau yn ymddangos cyn bod y person yn ddeuddeg mlwydd oed, yn ymestyn dros gyfnod o fwy na chwe mis, ac yn achosi problemau mewn o leiaf mwy na dwy sefyllfa (fel ysgol, adref, neu weithgareddau hamdden).[3][4] Mewn plant, gall problemau cymryd sylw arwain at berfformiad gwael yn yr ysgol. Er ei fod yn achosi amhariaeth, yn arbennig mewn cymdeithas fodern, mae nifer o blant sydd a'r anhwylder yn arddangos rhychwant sylw da ar gyfer tasgau sy'n eu diddori.[5]
Enghraifft o'r canlynol | anhwylder ymddygiad, anabledd, dosbarth o glefyd, anhwylder niwroddatblygol, neurodiversity |
---|---|
Math | anhwylder datblygiadol penodol, anhwylder hypercinetig, clefyd, anhwylder niwroddatblygol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er mai hwn yw'r anhwylder meddyliol sydd cael ei astudio a'i ddiagnosio fwyaf ymhlith plant a phobl ifanc, nid yw'r achos yn hysbys yn y mwyafrif o achosion. Mae'n effeithio tua 5–7% o blant pan yn cael ei adnabod gan ddefnyddio meini prawf DSM-IV[6][7] ac 1–2% pan yn cael ei adnabod gan ddefnyddio meini prawf ICD-10.[8] Ers 2015 mae wedi'i amcangyfrif ei fod yn effeithio 51.1 miliwn o bobl yn fyd-eang. Mae cyfraddau yn debyg rhwng gwledydd ac yn dibynnu'n bennaf ar y dull o'i adnabod.[9] Mae'r anhwylder yn cael ei adnabod mewn tua tair gwaith yn fwy o fechgyn nag o ferched, er bod tybiaeth nad yw'r anhwylder yn cael ei adnabod mor aml ymhlith merched oherwydd bod y symtomau yn wahanol.[10][11][12] Mae tua 30–50% o bobl sydd a'r anhwylder yn eu plentyndod yn parhau i arddangos y symtomau fel oedolion ac mae gan rhwng 2–5% o oedolion y cyflwr.[13][14][15] Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng yr cyflwr a chyflyrau eraill, a gwahaniaethu rhwng gorfywiogrwydd sy'n dal i fod o fewn ystod ymddygiadau normadol.
Mae argymhellion ar gyfer rheoli anhwylder diffyg canolbwynio a gorfywiogrwydd yn amrywio rhwng gwledydd ac fel arfer yn gyfuniad o gwnsela, newidiadau mewn ffordd o fyw, a meddyginiaethau.[16]
Mae llenyddiaeth feddygol wedi disgrifio symtomau tebyg i rai anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ers y 19g.[17] Mae'r anhwylder a'r driniaeth ohono wedi'i ystyried yn ddadleuol ers y 1970au, gyda meddygon, athrawon, lluniwyr polisi, rhieni a'r cyfryngau yn rhan o'r drafodaeth.[18] Mae pynciau trafod yn cynnwys achosion yr anhwylder a'r defnydd o feddyginiaethau adfywiol i'w drin.[19] Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr gofal iechyd yn derbyn bod yr anhwylder yn bodoli mewn plant ac oedolion, ac mae'r ddadl o fewn i'r gymuned feddygol yn canoli yn bennaf ar y dulliau o'i adnabod a'r driniaeth ohono.[20][21][22] Cafodd y cyflwr ei enwi yn anhwylder diffyg canolbwyntio rhwng 1980 a 1987; cyn hynny, roedd yn cael ei alw yn adwaith gorginetig plentyndod (Saesneg: hyperkinetic reaction of childhood).[23][24]