Argyfwng hinsawdd
argyfwng o ganlyniad i newid hinsawdd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r term argyfwng hinsawdd[1] yn disgrifio'r argyfwng ecolegol, gwleidyddol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â chynhesu byd-eang a achosir gan weithgarwch dynol. Fel y termau "trychineb hinsawdd" neu "cwymp hinsawdd", mae'n digwydd fwyfwy yn y byd cyhoeddus yn lle ymadroddion llai brawychus, megis "newid hinsawdd", i bwysleisio difrifoldeb cynhesu byd-eang.[2]