Baedd gwyllt
From Wikipedia, the free encyclopedia
O'r Baedd gwyllt neu'r Baedd coed (Sus scrofa) y datblygwyd y mochyn dof. Fe'i ceir trwy'r rhan helaeth o ganolbarth Ewrop a'r tiroedd o gwmpas Môr y Canoldir, yn cynnwys Mynyddoedd yr Atlas yng Ngogledd Affrica, ac ar draws rhan helaeth o Asia cyn belled i'r de ag Indonesia. Oni ddywedir yn wahanol yn yr ysgrif hon, defnyddir y term "baedd gwyllt" i olygu'r rhywogaeth, nid y gwryw yn unig.
Baedd gwyllt Amrediad amseryddol: Y Pleistosen cynnar hyd at yr Holosen | |
---|---|
Gwryw o Ganol Ewrop (S. s. scrofa) | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Sus |
Rhywogaeth: | S. scrofa |
Enw deuenwol | |
Sus scrofa Linnaeus, 10fed rhifyn o Systema Naturae; 1758 | |
Map o ardal naturiol y baeddod (gwyrdd) a phoblogaeth a gyflwynwyd (glas). ni ddangosir poblogaethau bychan yn y Caribî, Seland Newydd, Affrica i'r de o'r Sahara a mannau eraill.[1] | |
Cyfystyron | |
Cyfystyron y rhywogaeth
|
Adnabyddid y baedd gwyllt (Sus scrofa) gynt fel gwythwch ac erys yr enw ar sawl ffurf mewn llenyddiath ac enwau lleoedd. Gellir dadlau mai mochyn gwyllt fyddai'n enw mwy priodol arno. Ni ddylid ei ddrysu gyda'r mochyn fferal sydd yn anifail a ddychwelodd i'r gwyllt ar ôl dianc o gaethiwed.
Credir i'r baedd gwyllt ddiflannu o wledydd Prydain ac Iwerddon erbyn yr 17g, ond mae'n parhau yn bur gyffredin ar gyfandir Ewrop. Yn ddiweddar mae nifer o boblogaethau wedi eu sefydlu yn Lloegr trwy anifeiliaid ddianc o ffermydd, ac mae un o'r poblogaethau hyn, yn Swydd Henffordd, yn agos i ororau Cymru.
Ceir pedair isrywogaeth:
- Sus scrofa scrofa (gorllewin Affrica, Ewrop)
- Sus scrofa ussuricus (gogledd Asia a Japan)
- Sus scrofa cristatus (Asia Leiaf, India)
- Sus scrofa vittatus (Indonesia)
Ystyrir y mochyn dof fel isrywogaeth arall, Sus scrofa domestica, er bod rhai awduron yn ei ystyried yn rhywogaeth wahanol, Sus domestica.
Bu ymyrraeth dyn yn gyfrifol am ehangu dosbarthiad y baedd gwyllt i'r graddau ei fod ymysg yr anifeiliad mwyaf ei ymledaeniad yn y byd.[2] Diolch i'w niferoedd uchel, ei ymledaeniad eang a'i allu i gyfaddasu i sefyllfaoedd ecolegol amrywiol, nid oes pryder arbennig am ei ddyfodol yn nhyb yr IUCN[1] ac fe ddatblygodd i fod yn rywgaeth goresgynol mewn rhannau o'r parthau y'i cwyflwynwyd iddynt. Tarddodd yr anifail, maen debyg, yn Ne-ddwyrain Asia yn ystod y Pleistosen cynnar[3] gan orchfygu rhywogaethau eraill o deulu'rSuidae wrth iddo ymledu ar hyd yr Hen Fyd.[4]
Yn ôl yr wybodaeth oedd ar gael yn 1990, adnabyddir 16 is-rywogaeth, a ddosrennir i bedwar grwp rhanbarthol ar sail uchder y benglog a hyd yr asgwrn deigrol (lachrymal bone).[5] Mae'r rhywogaeth yn byw mewn cymunedau matriarchaidd sy'n cynnwys hychod sy'n cyd-berthyn, a'u hepil (gwryw a benyw). Byw'n unig y mae'r baeddod y tu hwnt i'r tymor bridio.[6] Y blaidd yw prif elyn y baedd gwyllt dros y rhan fwyaf o'i ddosbarthiad, ag eithrio'r Dwyrain Pell ac Ynysoedd y Swnda lle mae'r teigr a'r ddraig Comodo, yn eu trefn, yn cymryd ei le.[7][8] Ganddo hanes hir o gydberthynas â phobl, gan ei fod yn hynafiad y rhan fwyaf o fridiau'r mochyn dof ac yn un o anifeliaid mawr yr arferid ei hela ers milenia.
Baedd gwyllt | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Mammalia |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Suidae |
Genws: | Sus |
Rhywogaeth: | S. scrofa |
Enw deuenwol | |
Sus scrofa Linnaeus, 1758 | |