Baner Gwatemala
baner / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae baner Gwatemala (neu Guatemala) yn ddau lliw mewn tri band fertigol o faint cyfartal: mae'r band ganol yn wyn a'r ddau fand ucheben ac islaw yn las golau.
Yn draddodiadol, mae'r lliw glas golau, neu 'glas y nen', yn symboli'r cefnforoedd y Môr Tawel a'r Iwerydd sy'n ffinio'r wlad yma yng Nghanolbarth America, a'r gwyn yw purdeb gwerthoedd y genedl. Mewn gwirionedd, mae'r faner yn deillio o'r cyfnod yr oedd Gwatemala yn rhan o Unol Daleithiau America Ganol gan mai dyma oedd lliwiau wladwriaeth Canol America, a sefydlwyd am gynfnodau byrion wedi cwymp Ymerodraeth Sbaen yn yr America ar ddechrau'r 19g. Roedd fersiwn Guatemalan yn gosod y bandiau yn fertigol yn hytrach nag yn llorweddol fel y dyluniad gwreiddiol.[1]
Nodir bod lliwiau'r faner, a baneri eraill Canolbarth America, yr un lliw â rhai Ariannin ac Wrwgwái gan gael eu hysbrydoli gan y gwrth-ryfel dros annibyniaeth rhag Sbaen gan y mudiad yn Ne America.