Baner Quebec
Baner cenedl a thalaith Quebec, Canada. Gelwir hefyd yn Fleurdelisé. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Baner Quebec (Ffrangeg: Drapeau du Québec), neu Baner Québec a elwir hefyd yn Fleurdelisé,[1] yw baner genedlaethol talaith Canadaidd, Quebec.[2] Mae croes wen wedi'i rhannu'n bedair rhan las. Ym mhob un o'r pedair rhan hyn mae fleur-de-lys wen sef blodeuyn y dalaith hon.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Lliw/iau ...
Enghraifft o'r canlynol | baner endid gweinyddol o fewn un wlad, ethnic flag |
---|---|
Lliw/iau | glas, gwyn |
Dechrau/Sefydlu | 21 Ionawr 1948 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae'r fleur de lis wedi bod yn symbol traddodiadol o Ffrainc ers y canol oesoedd ac mae wedi cynrychioli Ffrainc. Mabwysiadwyd y symbol gan Quebecers yn 1948 oherwydd eu treftadaeth Ffrengig a'u cysylltiad diwylliannol. Cyn hynny, pan oedd Canada yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, roedd ei baner yn un arall, yn seiliedig ar y Lluman Glas Brydeinig.
Mae'r Fleurdelisé yn cael ei hedfan o amgylch y byd lle mae dirprwyaethau Quebec a swyddfeydd dramor wedi'u lleoli.[3]