Betty Williams (heddychwr)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Elizabeth Williams (née Smyth; 22 Mai 1943 – 17 Mawrth 2020) yn heddychwr o Ogledd Iwerddon.[1]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Betty Williams | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mai 1943 Belffast |
Bu farw | 17 Mawrth 2020 Belffast |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymgyrchydd heddwch |
Cyflogwr | |
Priod | Ralph Williams, James Perkins |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Carl-von-Ossietzky-Medaille |
Cau
Sefydlodd gyda'i ffrindiau Mairead Corrigan a Ciaran McKeown, "Merched Dros Heddwch", a newidiwyd ei enw'n ddiweddarach yn Cymuned o Bobl Heddychlon (Saesneg: the Community of Peace People), mudiad sy'n ceisio annog atebion i broblemau Gogledd Iwerddon drwy heddwch. Cyflwynwyd y Wobr Nobel i'r naill chwaer a'r llall yn 1976.[2]
Cafodd ei geni ym Melffast, yn ferch cigydd a gwraig tŷ. Protestiwr oedd ei mam a'i thad yn Babydd. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Rhamadeg Merched St Dominic. Priododd Ralph Williams a roedd ganddyn nhw ddau o blant.
Daeth Williams yn ymgyrchydd heddwch ar ôl bod yn dyst i farwolaeth tri phlentyn ar 10 Awst 1976.